Comisiwn cwynion yn beirniadu Heddlu Gwent
- Published
Mae comisiwn cwynion yr heddlu wedi beirniadu'r modd mae Heddlu Gwent yn gweithredu ar ôl i ddyn farw yn y ddalfa.
Cafodd Lee Donovan, oedd yn 23 oed, ei ddarganfod yn farw yn ei gell yng ngorsaf heddlu Pont-y-pŵl bedair blynedd yn ôl.
Yn ôl y comisiwn doedd yr heddlu ddim wedi cyflwyno gwelliannau gafodd eu hargymell yn dilyn marwolaeth arall yn y ddalfa rai blynyddoedd ynghynt.
Serch hynny, mae adroddiad y comisiwn yn dweud nad oedd yr heddlu wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei farwolaeth.
Marw trwy anffawd
Cafodd Mr Donovan ei arestio yn Ebrill 2008 ar amheuaeth o ddifrodi cerbyd.
Cafodd ei gludo i orsaf heddlu Pont-y-pŵl lle y cafwyd hyd iddo'n farw yn ddiweddarach gyda chwlwm o gwmpas ei wddf.
Cyhoeddodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) fanylion eu hadroddiad wedi i reithgor gyhoeddi rheithfarn fod Mr Donovan wedi marw trwy anffawd mewn cwest yng Nghasnewydd ddydd Llun.
Dywedodd Comisiynydd IPCC Cymru, Tom Davies, ei fod yn siomedig ynghylch ymateb Heddlu Gwent i awgrymiadau i wella safonau'r ddalfa yn dilyn marwolaeth Andrew Shepherd wrth iddo yntau fod yn y ddalfa ddwy flynedd ynghynt.
Canfu ymchwiliad yr IPCC i farwolaeth Mr Donovan nad oedd cwnstabl, sarsiant a swyddog y ddalfa wedi ymddwyn yn briodol.
Penderfynodd Heddlu Gwent roi cyngor rheoli i'r cwnstabl a rhoi cyngor ar lafar i swyddog y ddalfa.
Gadawodd y sarsiant ei swydd felly ni chafodd ei gosbi am gamymddygiad.