Cyngor i wahardd lleoliadau adloniant rhyw yn Abertawe?
- Published
Gallai lleoliadau sy'n cynnig adloniant rhyw gael eu gwahardd yn Abertawe pe bai cynghorwyr yn cymeradwyo'r newidiadau mewn cyfarfod ddydd Iau.
Mae'r cyngor am newid y polisi cyfredol o benderfynu pob cais yn unigol i bolisi lle bydd ceisiadau "fel arfer yn cael eu gwrthod".
Bydd yr adolygiad o'r polisi trwyddedu yn cynnwys dawnsio clun, dawnsio polyn, sioeau stripio a sioeau rhyw.
Mae swyddogion yn argymell newid y polisi presennol i un sy'n fwy tebygol o wrthod rhoi trwydded.
Ar hyd o bryd mae gan un sefydliad yn Abertawe drwydded i gynnal adloniant o natur rywiol ond bydd y drwydded honno yn dod i ben ym mis Ebrill 2013.
Yn gynharach eleni llwyddodd Thomas-Bellis Leisure yn Abertawe i gael trwydded i agor clwb stripio drws nesa' i gapel Bedyddwyr yn y ddinas.
Ond chafodd y clwb stripio ddim ei agor am fod prydles yr adeilad yn York Street yn eiddo i'r cyngor a dyw stripio ddim yn cydfynd â thelerau'r brydles.
Roedd mwy na 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cais.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Ebrill 2012
- Published
- 25 Ebrill 2012