Coyne yn canslo yn erbyn Cleverly

Nathan Cleverly Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Cleverly wedi ennill 24 gornest heb golli

Mae'r bocsiwr o America, Ryan Coyne, wedi dweud wrth BBC Cymru na fydd o'n ymladd yn erbyn y pencampwr byd, Nathan Cleverly, yn Los Angeles ar Dachwedd 10.

Roedd Cleverly, 25 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon, wedi dweud ddydd Llun ei fod yn obeithiol mai Coyne fyddai ei wrthwynebydd wrth iddo geisio amddiffyn ei goron is-drwm WBO y byd.

Ond cyhoeddodd Coyne ddydd Mawrth fod yr ornest wedi ei chanslo.

Yn ôl hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren, mae ganddo restr wrth gefn o focswyr allai gymryd lle Coyne.

Roedd 'na ddarogan wedi bod y gallai'r ornest dan sylw gael ei chanslo oherwydd anghydfod ynglŷn â chytundebau.

Roedd Coyne eisoes wedi mynegi pryder y byddai ei gyn asiant Don King yn gorfodi'r ornest i gael ei chanslo.

Penderfynodd Cleverly ganslo gornest â Vyacheslav Uzelkov o Wcráin yng Nghaerdydd i ymladd â Coyne yn yr Unol Daleithiau.

Hwn fyddai'r pedwerydd tro i'r Cymro amddiffyn ei bencampwriaeth.

Mae Cleverly wedi ennill bob un o'i 24 gornest.

Straeon perthnasol