Lladron yn dwyn dros 100 plac o eglwys yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i fwy na 100 o blaciau pres gael eu dwyn o wal gofeb mewn mynwent.
Cafodd y placiau, sy'n cynnwys enwau pobl leol fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, eu dwyn o Eglwys Gatholig y Groes Sanctaidd yn Abertawe.
Yn ôl Heddlu'r De fe gafodd y placiau eu dwyn rhwng 7:00pm ddydd Iau Hydref 25 a 3:00pm y diwrnod canlynol.
Dywedodd y Tad Cyril Thadathil fod plwyfolion wedi eu siomi'n arw gan y lladrad.
'Urddas'
"Roedd y placiau er cof am gymaint o bobl o'n plwyf oedd wedi gweithio mor galed ar gyfer yr eglwys a phobl oedd wedi aberthu eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd," meddai.
Ychwanegodd fod nifer o addolwyr wedi llefain ar ôl iddo ddweud wrthynt am y lladrad.
"Rwy'n apelio i'r lladron i ddychwelyd y placiau i'r eglwys oherwydd mae hyn yn ymwneud ag atgofion ac urddas pobl yn hytrach nag arian," meddai.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.