Brendan Rodgers i wynebu Abertawe yn Anfield
- Published
Fe fydd Abertawe yn wynebu'r cyn-reolwr Brendan Rodgers am y tro cynta' ers iddo ffarwelio â'r clwb dros yr haf.
Mae'r Elyrch yn teithio i Anfield i wynebu Lerpwl yn rownd 16 olaf Cwpan Capital One nos Fercher.
Mae Rodgers yn cydnabod y bydd hi'n noson emosiynol yn Anfield wrth iddo groesawu ei hen glwb.
Eglurodd Rodgers fod gadael y Liberty wedi bod "yn benderfyniad anodd iawn iawn".
Lerpwl ydi deiliaid y gwpan wedi eu buddugoliaeth yn Wembley yn erbyn Caerdydd fis Chwefror ar giciau o'r smotyn.
Pwynt o wahaniaeth sydd rhwng y ddau dîm yn Uwch Gynghrair Lloegr, gydag Abertawe un safle'n uwch na'r Cochion.
'Hanesyddol'
Ond mae hanes y gwpan yn dra gwahanol gyda Lerpwl wedi ei hennill hi wyth gwaith, y tîm mwya' llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth.
Os fydd tîm Michael Laudrup yn ennill, fe fydd hi'n fuddugoliaeth hanesyddol.
Nhw fydd y tîm cynta' yn hanes y clwb i gyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth.
Dydi gôl-geidwad Abertawe, Michel Vorm, ddim ar gael ar ôl cael ei anafu wrth geisio arbed gôl Carlos Teves yn Stadiwm Etihad ddydd Sadwrn.
Bydd Gerhard Tremmel yn y gôl i'r ymwelwyr a fo sydd wedi chwarae yn y ddwy gêm gwpan i'r Elyrch y tymor yma.
Mae 'na amheuaeth am Ashley Williams a Wayne Routledge ond mae disgwyl i Dwight Tiendalli gychwyn ei gêm gyntaf.
O ran Lerpwl, mae disgwyl i Rodgers roi seibiant i nifer o'i brif chwaraewyr gan gynnwys Steven Gerrard a Luis Suarez.
Mae disgwyl i Stewart Downing a Jordan Henderson gychwyn.
Methodd Lerpwl â sgorio yn y ddwy gêm rhwng y ddau dîm yn y gynghrair y tymor diwethaf, gyda gêm gyfartal yn Anfield 0-0 a cholli o o 1-0 yn Stadiwm Liberty.
Roedd gêm gwpan diwethaf Yr Elyrch yn Anfield yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA ym mis Ionawr 1990.
Fe wnaethon nhw golli o 8-0.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Hydref 2012
- Published
- 27 Medi 2012
- Published
- 30 Mai 2012
- Published
- 25 Medi 2012
- Published
- 28 Awst 2012
- Published
- 13 Mai 2012
- Published
- 5 Tachwedd 2011
- Published
- 15 Hydref 2012