Gefeilliaid o Ddinbych yn anelu am Rio
- Cyhoeddwyd

Mae gefeilliaid o Ddinbych wedi gohirio mynd i brifysgol er mwyn canolbwyntio ar eu sgiliau tenis bwrdd.
Roedd Angharad a Megan Phillips wedi cael graddau A ac A* yn eu harholiadau Lefel A yn yr haf.
Ond maent wedi penderfynu anelu am Gemau Olympaidd 2016 yn Rio yn hytrach na mynd i'r brifysgol.
Meddai Angharad, sydd un munud yn ifancach na'i chwaer: "Roedd gan y ddwy ohonom lefydd yn y brifysgol ond gallwn fynd yn ôl at hynny.
"Ond byddwn ni byth yn gallu mynd yn ôl at y safon hon mewn tenis bwrdd petawn ni'n cymryd egwyl.
"Hefyd mae Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 felly mae hynny'n darged enfawr i ni."
Cystadlu dros Ewrop
Bu'r efeilliaid yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn India ac maent bellach yn hyfforddi ac yn cystadlu dros Ewrop, mewn gwledydd fel Romania, Yr Almaen, Gwlad Belg, Hwngari a Serbia.
Mae rhieni'r ddwy, Tegid a Sue Phillips, yn cefnogi eu hymdrech i gyrraedd y Gemau Olympaidd yn 2016.
Mae talent ym myd chwaraeon yn rhedeg yn y teulu gan i Mr Phillips chwarae pêl droed i dîm dan 19 Cymru.
Roedd ei dad yntau wedi cynrychioli Prydain Fawr yng nghystadleuaeth y ddisgen tra bod eu hewythr wedi cynrychioli Prydain yn y naid driphlyg.
Dywedodd Megan bod ei theulu wedi ei hysbrydoli tra roedd yn tyfu fyny.
"Pan roeddwn yn ifanc ac wedi darganfod fod gymaint o aelodau o'm teulu wedi cynrychioli Cymru a Phrydain roeddwn wedi fy syfrdanu ac am wneud rhywbeth tebyg fy hun," meddai.
I ddechrau mae'r efeilliaid am ganolbwyntio ar denis fwrdd yn llawn amser am y ddwy flynedd nesaf tan Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Y targed wedi hyn fydd Gemau Olympaidd Rio yn 2016.
Meddai Megan: "Byddai'n golygu'r byd i ni lwyddo i gyrraedd Rio.
"Byddai'n golygu bod y blynyddoedd o waith caled a gorfod gwneud aberthau yn werth chweil."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012