Apêl gan bennaeth hostel troseddwyr

  • Cyhoeddwyd
Moose Hall, pic by John Jenkins, Elli ward councillorFfynhonnell y llun, John Jenkins
Disgrifiad o’r llun,
Byddai Moose Hall wedi bod yn gartref i chwech o gyn droseddwyr o dan gynllun Caer Las

Mae pennaeth elusen sydd yng nghanol ffrae am gynllun i godi cartref i gyn droseddwyr yn Llanelli wedi gofyn i drigolion lleol i ymddiried ynddo.

Cafodd protestiadau eu cynnal yn erbyn dau leoliad gwahanol yn y dref y mae Caer Las Cymru wedi dangos diddordeb ynddynt, ond heb fwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau.

Dywed trigolion bod y ddau leoliad ger canol y dref ac yn ymyl y swyddfa brawf mewn ardaloedd sydd eisoes â phroblem gyda chyffuriau.

Dywed Caer Las eu bod wedi eu cytundebu i ddarparu cartref yn yr ardal.

Deall pryder

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Jim Bird-Waddington: "Rwy'n deall yn iawn y pryder a'r ofn all ddod yn sgil cynllun fel hwn.

"Fy apêl i'r gymuned yw hyn - os ydych yn fodlon ystyried y syniad, gall y math yma o gynllun fod yn beth positif yn y gymuned, ac fe wnawn ni brofi hynny pan fydd yn agor.

"Rydym am dynnu 'mlaen gyda phobl. Dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw dderbyn y peth 100% tan i ni brofi hyn iddyn nhw.

"Does dim byd gennym ni i ennill o hyn - dydyn ni ddim yn gwneud elw o'r cynllun.

"Rydym yn gwneud hyn am ein bod yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym am wneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnod heriol."

Cytundeb

Y llynedd daeth tua 300 o bobl i brotestio yn erbyn cynllun i droi cyn gartref nyrsio Santes Elli yn gartref i gyn droseddwyr, gyda rhai yn llusgo dodrefn i ganol Stryd y Frenhines Fictoria mewn ymgais i'w rwystro.

Yna fis diwethaf, roedd trigolion yn chwyrn yn erbyn cynllun arall i droi hen neuadd - Moose Hall - yn gartref cyn i'r cynllun gael ei anghofio wrth i'r eiddo gael ei roi ar werth mewn ocsiwn.

Dywedodd Mr Bird-Waddington bod Caer Las Cymru wedi ennill cytundeb gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i ddarparu cartref, a bod yr awdurdod am gael y cartref mewn lleoliad canolog.

Ychwanegodd bod yr elusen eisoes wedi bod yn rhedeg "tri neu bedwar" eiddo arall yn y dref dros y ddegawd ddiwethaf.

'Cynllun bach'

Yn ôl Mr Bird-Waddington, byddai'r bobl yn y cartref ddim yn rhai peryglus, ac yn dod allan o'r carchar am droseddau "lefel isel" fel dwyn ac ati.

"Mae'r rhain yn bobl sydd wedi bod yn y carchar am ddedfrydau byr ac wedi cyflawni troseddau cyffredin fel dwyn," meddai.

"Dydyn nhw ddim yn bobl peryglus. Fe fydd gan y cleient hanes o droseddu, a risg o ail-droseddu.

"Mae yna don anferth o bobl yn gadael y carchar. Ar draws Cymru, mae angen cannoedd o gynlluniau fel hwn, mwy na thebyg, er mwyn delio gyda phobl sy'n gadael y carchar gyda risg o ail-droseddu.

"Mae hwn yn gynllun bach sy'n ceisio gwneud rhywbeth i nifer fach o bobl.

"Rhaid i ni ddarparu rhywle - mae'r adran dai yn glir iawn am hynny, a'u safbwynt nhw yw y byddai lleoliad canolog yn well o lawer.

"Y cam nesaf i ni yw chwilio am leoliad addas yn rhywle. Ar hyn o bryd does gen i ddi syniad ble, oherwydd dydyn ni ddim wedi dod o hyd i leoliad arall priodol.

"Rhaid iddo fod yn weddol agos i ganol y dref oherwydd mae angen i'r bobl ynddo gael mynediad at wasanaethau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol