Taro a ffoi: Gadael yr ysbyty
- Published
image copyrightSouth Wales Police
Mae'r holl bobl gafodd eu hanafu ar ôl cael eu taro gan fan yng Nghaerdydd bron i bythefnos yn ôl wedi gadael yr ysbyty.
Fe gafodd 13 o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru am driniaeth ar Hydref 19.
Bu farw Karina Menzies, 31 oed, yn y digwyddiad.
Mae Mathew Tvrdon, 31 oed, wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio, ceisio llofruddio, ymosod a gyrru'n beryglus.
Bydd angladd Ms Menzies yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, Tachwedd 9.