Dau wedi eu hanafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddau ddyn gael eu hanafu'n ddifrifol mewn damwain ffordd yn Nyffryn Conwy.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd y B5106 yn Nhyn y Groes tua 1:30pm ddydd Mercher rhwng Vauxhall Corsa coch a Toyota Yaris lliw arian.
Cafodd y ddau yn y Yaris fân anafiadau, tra bod gan y ddau ddyn yn y Corsa anafiadau "sy'n peryglu eu bywydau".
Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol