Dod o hyd i weddillion dynol wrth chwilio am Catherine Gowing
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowing wedi dod o hyd i weddillion dynol yn Sir y Fflint.
Fe fydd profion post mortem yn cael eu cynnal prynhawn Iau i ddarganfod os mai gweddillion Catherine Gowing ydynt.
Diflannodd Ms Gowing ar ddydd Gwener, Hydref 12, pan y gwelwyd hi yn gadael archfarchnad yn Queensferry.
Tan ddydd Mercher, roedd y chwilio wedi canolbwyntio ar safle hen chwarel yn Alltami lle daeth yr heddlu o hyd i'w char wedi ei losgi.
Ond daethpwyd o hyd i'r gweddillion yn Manor Lane yn Sealand yn dilyn gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd.
Mae Clive Sharp, 46 oed, o Fethesda, Gwynedd, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio Ms Gowing.
Bydd o yn ymddangos eto yn y llys ar Ionawr 7, 2013.
Dywedodd y ditectif uwch brif arolygydd Mark Pierce: "Yn dilyn gwybodaeth a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd, mae ein hymdrechion diweddar wedi canolbwyntio ar ardal Manor Road yn Sealand.
"Ddoe fe wnaeth y timau chwilio ddod o hyd i weddillion mewn pwll bas."
Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu 101 neu'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012