Grŵp lleol yn prynu hen lys
- Cyhoeddwyd

Mae mudiad cymunedol yn dathlu ar ôl iddynt lwyddo i brynu hen orsaf yr heddlu a swyddfeydd y llys yn Aberteifi, Ceredigion.
Bwriad y mudiad cydweithredol, 4CG (Cymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad) yw datblgu'r safle ar gyfer mentrau lleol.
Mae gan y mudiad cydweithredol 560 o aelodau sydd wedi cyfrannu £200 yr un.
Dywedodd y Trysorydd, Cris Tomos, mai hwn fydd yr ail safle i gael ei brynu gan y mudiad.
Yn 2010 fe wnaeth y grŵp brynu Pwllhai Stores, hefyd yn Aberteifi.
"Rydym eisoes wedi derbyn ymholiadau gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn gofyn am logi llefydd o fewn yr adeiladau.
"Rydym nawr yn gwahodd eraill i ddod i weld y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig."
Bydd yna gyfnod o ymgynghori hefyd gyda'r cyfranddalwyr er mwyn gwybod eu barn ynglŷn â datblygu'r safle newydd.