Deddf iaith: Dim her gyfreithiol
- Published
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau na fydd deddfwriaeth sydd a'r nôd o roi statws cyfartal i'r Gymraeg yn wynebu her gyfreithiol yn y llysoedd.
Dywed swyddfa'r Twrne Cyffredinol Dominic Grive ei fod wedi penderfynu peidio â chyfeirio'r Deddf Iaith i'r Goruchaf Lys.
Roedd Swyddfa Cymru wedi cwestiynu a oedd gan y cynulliad hawliau deddfwriaethol wrth ymwneud â'r iaith Saesneg.
Cafodd y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol ei phasio gan aelodau'r cynulliad fis diwethaf.
Nod y Ddeddf yw sicrhau cydraddoldeb i'r ddwy iaith o ran y cynulliad a hefyd wrth i'r cynulliad ddelio gyda'r cyhoedd.
Cafodd y mesur ei lunio gan Comisiwn y Cynulliad, y corff sy'n gyfrifol am reoli busnes dyddiol y cynulliad.
Bydd y mesur nawr yn cael sêl bendith y Frenhines.
Dywed y Twrne Cyffredinol ei fod o'n ystyried pob mesur sy'n cael ei basio gan senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ogystal â chynulliad cenedlaethol Cymru.
Ar hyn o bryd mae barnwyr y goruchaf lys yn ystyried deddfwriaeth arall gafodd ei basio gan y cynulliad cenedlaethol.
Mae'r Twrne Cyffredinol yn honni bod mesur i ddiwygio rheolau llywodraeth lleol yn mynd y tu hwnt i bwerau'r cynulliad.
Mae llefarydd Llafur ar Gymru Owen Smith wedi beirniadu Ysgrifennydd Cymru, David Jones, am gwestiynu'r ddeddf iaith.
"Yn awr mae yna gwestiynau i David Jones eu hateb ynglŷn â pham iddo fynnu i barhau gyda'r adolygiad gwastraffus hwn ynglŷn â gallu'r cynulliad yn y maes deddfwriaethol - mae angen gofyn beth oedd y gost o gyfeirio'r mater.
Ychwanegodd fod angen atebion i'r uchod neu bydd yna bryder fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn agenda personol sy'n wrth-ddatganoli.
Gofynnwyd i swyddfa Cymru am ymateb.
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Chwefror 2012
- Published
- 13 Chwefror 2012
- Published
- 12 Chwefror 2012