Caerdydd i gynnal pum prawf undydd yn 2013.

  • Cyhoeddwyd

Bydd cartref Clwb Criced Morgannwg yn chwarae rhan ganolog ym mhencampwriaeth fydd yn cynnwys wyth tîm rhyngwladol gorau'r byd y flwyddyn nesaf.

Bydd Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd ynghyd â'r Oval yn Llundain ac Edgbaston yn Birmingham yn cynnal holl gemau Tlws Pencampwriaeth yr ICC rhwng Mehefin 6 a Mehefin 23 2013.

Bydd Stadiwm Swalec yn cynnal pedair o'r gemau rhagbrofol gan gynnwys India yn erbyn De Affrica i ddechrau'r gystadleuaeth 50 pelawd ar Fehefin 6.

Bydd un o gemau cyn-derfynol y bencampwriaeth hefyd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Fehefin 20.

Daeth nifer o bwysigion y gem a'r prif weinidog Carwyn Jones ynghyd i Stadiwm Swaled ddydd Iau i lansio'r bencampwriaeth.

Bydd stadiwm Swalec yn cael ei ail-enwi yn 'Stadiwm Caerdydd Cymru' ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae'n debyg mai dyma fydd y tro ola' i'r ornest rhwng wyth o brif wledydd criced y byd gael ei chynnal,

Mae Morgannwg hefyd yn gobeithio chwarae gem baratoi yn erbyn un o'r gwledydd.

Gêm brawf

Mae'r wyth tîm yn y gystadleuaeth wedi eu rhannu yn ddau grŵp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cynhaliwyd prawf rhwng Lloegr ac Awstralia yn y stadiwm yn 2009

Bydd Lloegr, Awstralia, Seland Newydd a Sri Lanka yn herio'i gilydd yn Grŵp A ac fe fydd India, Pakistan, De Affrica ac India'r Gorllewin yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Grŵp B.

Mae Stadiwm Swalec eisoes wedi cynnal gemau prawf rhwng Lloegr ac Awstralia a Lloegr a Sri Lanka.

Bydd y maes hefyd yn cynnal gêm brawf rhwng Lloegr ac Awstralia yn 2015.

Tlws Pencampwriaeth yr ICC

Dydd Iau Mehefin 6: India v De Affrica

Dydd Sul Mehefin 9: Sri Lanka v Seland Newydd

Dydd Gwener Mehefin 14: India'r Gorllewin v De Affrica

Dydd Sul Mehefin 16: Lloegr v Seland Newydd

Dydd Iau Mehefin 20: Gêm gyn-derfynol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol