Aelod Seneddol yn galw am warchod tir gwyrdd y brifddinas
- Cyhoeddwyd

Dylai cefn gwlad ar gyrion Caerdydd gael ei warchod gan statws ardal werdd, yn ôl un Aelod Seneddol Llafur yn y ddinas.
Dywedodd Julie Morgan, AS Gogledd Caerdydd, nad yw'r cynlluniau i ehangu'r ddinas yn gwneud digon i'w atal rhag llechfeddiannu'r tirlun.
Mae cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn ymatal rhag adeiladu ar fryniau i'r gogledd o'r M4, ond dywed Mrs Morgan bod angen gwarchodaeth hir dymor ar yr ardal.
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd amlinellol i gynlluniau fyddai'n gweld yr ehangiad mwyaf o'r ddinas am dros hanner canrif.
Mae'r cynllun datblygu lleol yn cynnwys cynlluniau o godi 45,400 o dai newydd, rhai ohonyn nhw ar safleoedd tir gwyrdd.
'Dim yn ddigon'
Dywed y cynllun bod cefnen o dir o "bwysigrwydd strategol" i'r gogledd o draffordd yr M4 yn cael ei warchod er mwyn cadw cefndir gwyrdd i'r ddinas.
Mae mannau agored eraill a dyffrynnoedd afonydd yn y ddinas hefyd yn cael eu gwarchod.
Ond dywedodd Mrs Morgan: "Dyw hynny ddim yn ddigon. Mae angen 'llain werdd' ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn gallu darbwyllo'r datblygwyr i gefnogi hynny."
Bydd y Cynllun Datblygu yn para tan 2026, ond fe allai tir o gwmpas Mynydd Caerffili gael ei warchod am byth pe bai'n cael ei ddynodi'n rhan o 'lain werdd', medd Mrs Morgan.
Bydd yn lansio'i hymgyrch mewn cyfarfod cyhoeddus yn ei hetholaeth nos Wener, ac fe fydd hefyd yn gwahodd pobl i ystyried a oes angen mwy o warchodaeth i ddyffrynnoedd tair afon - y Taf, Elai a Rhymni - a chronfa Llanisien.
Holi barn
Fel rhan o ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol, mae Cyngor Caerdydd - sy'n cael ei redeg gan Lafur - yn gofyn os y dylid creu llain werdd am y tro cyntaf.
Mae statws 'llain werdd' yn fodd o reoli twf dinasoedd a threfi trwy warchod y tir o'u cwmpas.
Yr unig un yng Nghymru yw'r tir rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiadau lleol eleni, dywedodd y blaid Lafur y byddai'n defnyddio lleiniau gwyrdd yng Nghaerdydd.
"Dros y misoedd nesaf fe ddylwn fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad pendant os oes modd creu llain werdd o dan drefniadau Cymru," meddai dirprwy arweinydd y Cyngor, Ralph Cook.
"Yn y cyfamser rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol clywed barn pobl ar greu llain werdd.
"Mae unrhyw dir sydd heb ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei warchod.
"Nid ydym wedi penderfynu datblygu tir i'r gogledd o'r M4 yng Nghaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012