Gwrthod apêl llofrudd yn erbyn dedfryd

Carl Whant Image copyright Other
Image caption Dywedodd yr Arglwydd Ustus Pitchford bod Carl Whant "yn amlwg yn ddyn peryglus iawn"

Mae dyn a laddodd cariad beichiog ei ffrind gorau a'i babi wedi methu yn ei ymgais i gwtogi ei ddedfryd yn y carchar.

Cafwyd Carl Whant, 28 oed o'r Betws, yn euog o dreisio a llofruddio Nikitta Grender drwy dorri ei gwddf a'i thrywanu yn ei stumog cyn rhoi ei chorff ar dân.

Cafodd ei ddedfrydu i leiafswm o 35 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Chwefror eleni.

Ddydd Iau roedd yn gofyn i'r Llys Apêl yn Llundain i gwtogi'r lleiafswm yna, ond gwrthodwyd y cais gan dri barnwr, gydag un yn dweud ei fod "yn amlwg yn ddyn peryglus iawn".

'Peryglus'

Cafodd Nikitta Grender ei threisio gan Whant yn y fflat yr oedd yn rhannu gyda'i chariad, sef cefnder a ffrind gorau Whant.

Image copyright Other
Image caption Cafodd Nikitta Grender ei llofruddio o fewn pythefnos i roi genedigaeth

Pan ddywedodd ei bod am ddweud wrth yr awdurdodau amdano, fe'i llofruddiwyd, Medd yr Arglwydd Ustus Pitchford.

Roedd cyfreithwyr Whant wedi dadlau bod y lleiafswm o ddedfryd yn rhy uchel gan fod y barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi ystyried lladd plentyn Ms Grender wrth ddedfrydu.

Gwrthododd yr Arglwydd Ustus Pitchford hynny gan ddweud: "Fe laddodd y ferch am ei bod yn dyst i dreisio yr oedd wedi cyflawni.

"Roedd y drosedd yn waeth am ei fod hefyd wedi lladd y babi oedd heb ei eni, a'i ymgais i gael gwared â thystiolaeth drwy ei roi ar dân.

"Mae'r ffeithiau erchyll yn golygu bod gan y barnwr hawl i osod dedfryd oedd â lleiafswm yn sylweddol uwch na 30 mlynedd.

"Yn amlwg mae'n ddyn peryglus iawn, a does dim modd dadlau bod y ddedfryd yn ormodol."

Straeon perthnasol