Sialensiau'r dyfodol i S4C wrth i batrymau gwylio newid
Huw Thomas
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
I fusnesau ym mhob cwr o Gymru, argaeledd cyllid sy'n rheoli uchelgeisiau'r dyfodol.
Ar ddechrau degawd newydd yn ei hanes, sefyllfa debyg sy'n wynebu S4C.
Ers cychwyn y gwasanaeth teledu ym mis Tachwedd 1982, mae'r hinsawdd ddarlledu wedi newid yn syfrdanol.
Ar drwydded deledu'r BBC bydd S4C yn ddibynnol am y rhan helaeth o'i hincwm o'r flwyddyn nesaf ymlaen, ers i Lywodraeth San Steffan cyhoeddi diwedd i'r hen drefn ariannu yn 2010.
Patrymau gwylio
Ond nid ffynonellau arian yn unig sydd yn newid i'r sianel - mae patrymau gwylio ei chynulleidfa hefyd yn amrywio.
Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r sialens i S4C yn eglur.
Rhaid cadw a chynyddu'r nifer sy'n gwylio, a gwneud hynny o fewn cyfyngiadau ariannu newydd.
Yn ei gyfweliadau yn ystod wythnos penblwydd y sianel yn 30 oed, amlinellodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, ei uchelgais.
Mae am ei gwneud hi'n haws i wylwyr ddefnyddio teclynnau fel cyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi i wylio'r arlwy.
Mae gwasanaeth Clic ar gael eisoes, ac yn rhoi cyfle i wylio S4C yn fyw ar y wê, neu i ddarganfod rhaglenni ar ôl iddyn nhw gael eu darlledu ar y sianel.
Cydnabyddodd Ian Jones bod cenhedlaeth newydd o wylwyr nawr yn gyfarwydd â gwylio eu hoff raglenni ar adegau sy'n gyfleus iddyn nhw - nid yn ôl amserlen ddyddiol y sianeli teledu.
Bydd S4C nawr yn ystyried sut i fanteisio ar batrymau gwylio ei chynulleidfa, ac ariannu'r ateb.
Y drefn newydd
Mae llai o arian yn gorfodi S4C i ystyried pob opsiwn o ran denu gwylwyr a buddsoddiant.
Y gobaith yw y bydd ehangu'r arfer o ddefnyddio troslais Saesneg ar raglenni'r sianel trwy'r botwm coch yn dod a fwy o arian o hysbysebwyr, wrth i fwy o bobl ddi-Gymraeg dewis gwylio S4C.
Ac mae dal rhai sy'n anfodlon am y drefn newydd sy'n bodoli rhwng S4C a'r BBC.
Ar benblwydd y sianel ddydd Iau, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten, i alw arno i newid y cytundeb sy'n bodoli rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Awdurdod S4C.
Maen nhw'n pryderu bod gormod o reolaeth gan y BBC dros gyllid S4C, a bod angen newid y cytundeb i sicrhau annibyniaeth y sianel.
Mae'r ymddiriedolaeth a rheolwyr S4C yn mynnu bod annibyniaeth y sianel yn ddiogel yn y fargen newydd.