Cwest: Rabi wedi marw trwy ddamwain yn Aberystwyth
- Published
Mae crwner wedi cofnodi mai damwain oedd marwolaeth dyn a aeth i drafferthion yn y môr ger Aberystwyth ddechrau Awst.
Roedd y rabbi Dov Berish Englander, 47 oed o Lundain wedi rhoi ei gorff i gyd dan y dŵr wrth iddo berfformio defod Iddewig.
Bu farw yn Ysbyty Bronglais yn dilyn y digwyddiad ar Awst 2 eleni.
Yn Aberystwyth ddydd Iau cofnododd crwner Ceredigion, Peter Brunton, reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Awst 2012
- Published
- 2 Awst 2012