BBC Cymru Fyw

Dirwyo naw ar ôl trydar enw

Published
image copyrightOther
image captionCafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio
Mae naw oedd wedi cyfadde' cyhoeddi ar-lein enw dynes gafodd ei threisio gan y pêldroediwr Ched Evans wedi cael eu dirwyo.
Yn Llys Ynadon Prestatyn cafodd y naw orchymyn i dalu £624 o iawndal yr un i'r ddynes.
Roedd saith dyn a thair dynes wedi'u cyhuddo o roi enw'r ddynes ar wefannau cymdeithasol ar ôl i Evans gael ei ddyfarnu'n euog ym mis Ebrill 2012.
Daw saith o Ogledd Cymru a thri o Sheffield.
Roedden nhw wedi eu cyhuddo o gyhoeddi manylion ar y we allai arwain at adnabod y ddioddefwraig.
Plediodd naw yn euog ddydd Llun.
Y naw yw Gemma Thomas, 18 oed o'r Rhyl, Benjamin Davies, 27 oed o'r Rhyl, Holly Price, 25 oed a Craig McDonald, 26 oed o Brestatyn, Michael Ashton, 21 oed o Landdulas, Dominic Green, 23 oed o'r Rhyl, a Shaun Littler, 22 oed, Paul Devine, 26 oed a Daniel Cardwell, 25 oed, y tri o Sheffield.
Mae Gemma Thomas yn gyfnither i Evans.
Plediodd Alexandra Hewitt, 24 oed o Frychdyn, yn ddi-euog a chafodd fechnïaeth tan Ionawr 21.
Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill ar ôl bod yn euog o dreisio dynes 18 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Roedd wedi cyfadde' cael rhyw gyda'r ddynes 19 oed ond dywedodd y ddynes wrth y llys nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r digwyddiad.

Straeon perthnasol

  • Enw ar Twitter: Cyhuddo pump