BBC Cymru Fyw

Prestatyn ar y brig

Published
image copyrightNot Specified

Dydd Sadwrn

Prestatyn 3-1 Llanelli

Mae Prestatyn ar frig uwchgynghrair Cymru ar ôl curo Llanelli 3-1.

Gareth Wilson (6') Andy Parkinson (48') Neil Gibson 77' sgoriodd i'r tîm cartref, gyda gôl yr ymwelwyr yn cael ei sgorio gan Geoff Kellaway.

Caerfyrddin 2-1 Airbus

Roedd yna ganlyniad annisgwyl yng Nghaerfyrddin, gyda Chaerfyrddin yn curo'r tîm ddechreuodd y diwrnod yn y trydydd safle.

Daeth y goliau yn hwyr yn y gêm.

Dwy gôl i Liam Thomas, Caerfyrddin (71' + 79') gyda Steve Abbott yn sgorio i'r ymwelwyr ar ôl 75 munud.

Seintiau Newydd 2-1 Lido Afan

Mae'r Seintiau Newydd yn aros yn drydydd ar ol curo Lido Afan 2-1.

Fe wnaeth Chris Hartland (36') roi'r ymwelwyr ar y blaen ond fe darodd y Seintiau yn ol drwy Greg Draper (43') a Chris Seargeant (84').

Port Talbot 6-1 Cei Conna

Rhys Healy sgoriodd unig gol yr ymwelwyr wrth i Gei Conna gael cweir yn Port Talbot.

Jeff White, dwy, Cortez Belle, Dylan Blain ac Adam Wright, dwy sgoriodd i'r tîm cartref.

Bala 3-2 Aberystwyth

Tair gol yn yr ail hanner wnaeth sicrhau'r pwyntiau i'r tim cartef ar ol iddynt fod ar ei hol hi o ddwy gol.

Sgoriodd Lee Hunt ddwy gyda Ian Sheridan yn ychwanegu'r llall.

Matty Collins a Declan Carroll sgoriodd i'r ymwelwyr naill ochr i'r egwyl.

Bala Town

Nos Wener

Aeth Bangor i frig yr uwchgynghrair am gyfnod ar ol curo Y Drenewydd 3-0 nos Wener.

Cafodd Bangor ddechrau dau gyda goliau gan Chris Simm (15 munud) a Sion Edwards (18). Sgoriodd Alan Bull saith munud o'r diwedd i sicrhau'r tri phwynt.

Cafodd5 Kieran Mills-Evans o'r Drenewydd gerden goch ar ol 22 mundud.