Achub cerddwyr a dringwyr
- Cyhoeddwyd

Cafodd pedwar o fyfyrwyr eu hachub oddi ar Tryfan
Fe gafodd nifer o gerddwyr a dringwyr eu hachub yn Eryri mewn tywydd gwael.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Ogwen eu galw i helpu pedwar o fyfyrwyr wrth ddringo ar greigiau Tryfan.
Penderfynodd y tîm achub oherwydd eira a tharanau nad oedd yn ddiogel i ddefnyddio rhaffau i ddod a'r myfyrwyr lawr
Yn y diwedd bu'n rhaid cael cymorth hofrennydd yr RAF i'w codi oddi ar y crieigiau yn oriau man bore Sul.
Cafodd y tîm achub hefyd eu galw i gynorthwyo dau ddyn o Essex oedd wedi mynd ar goll yn yr eira yn ardal Cwm Idwal
A chafodd menyw 19 oed ei hedfan i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl anafu ei ffêr ar un o fynyddoedd y Glyderau ger Bethesda.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2012
- 10 Awst 2012
- 30 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol