Milfeddyg: Cadarnhad o weddillion
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud mai gweddillion Catherine Gowing y cafwyd hyd iddynt yn Sealand ddydd Mercher.
Mae teulu'r milfeddyg o Iwerddon wedi cael gwybod am y datblygiad.
Dywedodd y ditectif prif arolygydd Mark Pierce:
"Fe wnaeth y post mortem gadarnhau ein hofnau ac mae'r canlyniadau wedi eu hadrodd i deulu Catherine.
"Rydym yn parhau i aros am gadarnhad am y gweddillion dynol y cafwyd hyd iddynt ar lannau Afon Dyfrdwy yn Higher Ferry, Caer, ddydd Gwener.
"Mae'r chwilio yn parhau am unrhyw weddillion eraill ac unrhyw dystiolaeth arall a all ein cynorthwyo."
Cafodd y gweddillion yn Seland eu darganfod mewn pwll mewn cae ger Manor Road.
Mae crwner dros dro gogledd ddwyrain Cymru John Gittins wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.
Cafodd Catherine Gowing, 37 oed, ei gweld y tro ola ar Hydref 12, dros dair wythnos yn ô yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry tua 8:40pm.
Mae dyn 46 oed o Fethesda, Clive Sharp, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Dechreuodd ymgyrch anferth gan yr heddlu i chwilio am Ms Gowing, gan ganolbwyntio i ddechrau ar hen chwarel yn Alltami ger Yr Wyddgrug lle cafwyd hyd i'w char wedi ei losgi'n ulw.
Mae'r heddlu yn parhau yn awyddus i glywed gan unrhyw un awelodd y car Renault Clio rhif adnoab 00D 99970 neu gar Mr Sharp's Volvo du S40 AG58 JHE ers Hydref 12.
"Byddwn am glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Manor Road Sealand, " meddai'r ditectif prif arolygydd Mark Pierce.
Mae'r heddlu yn dal i ofyn i bobl gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, a hynny drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012