Gweilch 19-10 Leinster
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y Gweilch guro Leinster i symud uwchben y Gwyddelod yng nghynghrair y Pro12 gyda buddugoliaeth
Leinster oedd ar y blaen 10-9 ar yr egwyl, gyda Leo Auva'a yn croesi i'r ymwelwyr.
Bu'n rhaid i'r Gweilch aros tan yr ail hanner i fynd ar y blaen a bu'n rhaid brwydro'n galed i aros yn y gêm.
Ond gyda'r Gweilch lawr i 14 ar ôl i Duncan Jones gael ei anfon i'r gell cosb daeth cais i'r tîm cartref.
Gwaith gwych gan Fussell yn gweld y bbêll yn cyrraedd yr asgellwr Eli Walker.
Yna gyda chwe munud yn weddill fe wnaeth y Gweilch gael eu hunain yn 22 yr ymwelwyr.
Daeth y bêl yn ôl i'r maswr Matthew Morgan a'i gol adlam yn rhoi'r tîm cartref ddau sgôr ar y blaen.
Scarlets 22-13 Zebre
Fe sgoriodd yr asgellwr Kristian Phillips gais hwyr i sicrhau buddugoliaeth i'r Scarlets yn erbyn Zebre.
Roedd y Scarlets heb 12 o chwaraewyr oedd yn hyfforddi gyda charfan Cymru.
Yr Eidalwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl ac roeddynt 13-12 ar y blaen cyn cais Phillips.
Matteo Pratichetti groesodd ar gyfer cais Zebre, gyda Daniel Halangahu yn ychwanegu dwy gic cosb.
Ond atebodd Aled Thomas gyda phum cic gosb a throsgais.
Golygai'r fuddugoliaeth fod yr Scarlets yn yr ail safle yng Nghynghrair y Pro12.
Scarlets: Morgan Stoddart, Kristian Phillips, Gareth Maule, Gareth Owen, Andy Fenby, Aled Thomas, Gareth Davies; Phil John, Kirby Myhill, Deacon Manu, George Earle, Johan Snyman, Tomás Vallejos, Johnathan Edwards (capt), Kieran Murphy
Eilyddion: Aled Davies, Sione Timani, Craig Price
Zebre: Ruggero Trevisan; David Odiete, Matteo Pratichetti, Daniel Halangahu, Samuele Pace; Paolo Buso, Tito Tebaldi; Matias Aguero, Andrea Manici, Luca Redolfini, Josh Sole, Filippo Cazzola, Filippo Ferrarini, Filippo Cristiano (capt), Andries Van Schwalkwyk.
Replacements: Paolo Buso, Carlo Fazzari, Andrea De Marchi , Luciano Leibson, Nicola Belardo
Gleision 18-24 Munster
Fe wnaeth cyn chwaraewr y Gleision Casey Laulala ddychwelyd i'w hen glwb a sicrhau buddugoliaeth i Munster ym munudau ola'r gem.
Fe wnaeth Laulala osgoi tacl Tom James cyn sgorio - gan olygu fod y Gleision wedi colli chwe gem yn olynol.
Tommy O'Donnell roddodd Munster ar y blaen, ond fe roddodd cais Dafydd Hewitt hwb i'r tîm cartref.
Sgoriodd O'Donnel gais arall i roi Munster yn ôl ar y blaen.
Yna fe groesodd Lewis Jones i'r Gleision a gobaith am fuddugoliaeth, cyn i Laulala daro nôl i'r ymwelwyr.
Gleision:Dan Fish; Tom Williams, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Tom James; Jason Tovey, Lewis Jones; Campese Ma'afu, Rhys Williams, Taufa'ao Filise, Lou Reed, James Down, Robin Copeland, Josh Navidi, Andries Pretorius (capt).
Eilyddion: Andi Kyriacou, Sam Hobbs, Ryan Harford, Macauley Cook, Luke Hamilton, Rob Lewis, Ceri Sweeney, Owen Williams.
Munster: Jones, Howlett, Laulala, Keatley, O'Dea, O'Gara, Williams, Horan, Sherry, Archer, D. Foley, Holland, D. O'Callaghan, Dougall, O'Donnell.
Eilyddion: Stringer, J. Ryan, Butler
Glasgow 37-6 Dreigiau
Cafodd y Dreigiau gweir yn yr Alban wrth i Glasgow groesi am bum cais yn y Pro12.
Hwn oedd chweched buddugoliaeth yn olynol i'r Albanwyr.
Croesodd Peter Murchie a Gordon Reid yn hanner cyntaf. Yr unig ymateb gan y Dreigiau oedd dwy gic gosb gan Tom Prydie.
Yn yr ail hanner croesodd Tom Ryder a Tommy Seymour (2) i sicrhau pwynt bonws i'r Warriors.
Golygai'r canlyniad fod y Dreigiau ond wedi ennill un allan o'u naw gem olaf.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2012