Achub 40 o lifogydd maes carafannau
- Cyhoeddwyd
Mae tua 40 o bobl wedi cael eu hachub o faes carafannau yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn llifogydd ar y safle.
Cafodd tua 60 o garafannau eu hamgylchynu gan ddŵr ym Mhentywyn nos Sul.
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddefnyddio cwch fel rhan o'r gwaith achub.
Mae adroddiadau bod un person wedi cael anaf. Mae'r rhai gafodd eu hachub wedi cael eu symud i garafannau eraill ar dir uwch.