Tân Prestatyn: Un arall wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Lee-Anne Shiers, Charlie Timbrell, Skye Allen, Bailey AllenFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, nith Skye, dwy, a'i nai Bailey Allen, pedair

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod pumed person wedi marw oherwydd tân ym Mhrestatyn fis diwethaf.

Roedd Liam Timbrell wedi bod mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr ers i dân ysgubo drwy ei gartref ym Maes y Groes nos Wener, Hydref 19.

Bu farw partner Mr Timbrell, Lee-Anna Shiers, a'u mab Charlie oedd yn 15 mis oed, yn y tân ynghyd â nai a nith Ms Shiers - Bailey Allen, oedd yn bedair oed, a Skye Allen oedd yn ddwy oed.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd John Chapman: "Dyma'r bumed farwolaeth o ganlyniad i'r tân ym Mhrestatyn.

"Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad diffuant i'r teuluoedd yn y cyfnod trasig hwn."

Mae Melanie Jane Smith, 42 oed, wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, un o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac un o fygwth achosi difrod troseddol.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa tan fis Ionawr.