C&A: Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

Golwg sydyn ar etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr.

Be sy'n digwydd?

Fe fydd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ar Dachwedd 15 2012. Bydd yn digwydd mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Cafodd yr etholiadau eu disgrifio fel y newid mwya i blismona ers 50 mlynedd.

Be fydd y comisiynwyr yn ei wneud?

Y comisiynwyr fydd yn gyfrifol am benodi'r prif gwnstabl ar gyfer y llu, gosod blaenoriaethau plismona lleol, adrodd yn flynyddol ar y llwyddiant a gosod cyllideb y llu a grantiau diogelu'r cymunedau. Dywedodd y llywodraeth nad ydi'r comisiynwyr yno i redeg yr heddluoedd ond yn hytrach i'w dwyn i gyfri.

O ble daeth y syniad?

Mae'r syniad i ganiatáu'r cyhoedd gael mwy o lais yn y ffordd y mae'r heddlu yn cael ei redeg wedi ei gefnogi gan y Ceidwadwyr ers blynyddoedd lawer. Maen nhw'n ei weld yn ffordd o roi hwb i ddemocratiaeth leol. Daeth yn bolisi gan y blaid yn yr etholiad cyffredinol yn 2010. Roedd yn rhan o gytundeb clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn bod yr heddlu "yn fwy atebol" a hynny gyda'r comisiynydd yn cael ei ethol yn uniongyrchol gan y cyhoedd. Cafodd y papur gwyn, "Plismona yn y 21ain Ganrif" ei gynnwys yn y Ddeddf Diwygio Plismona a Chyfrifoldeb Cymdeithasol a ddaeth i rym yn 2011.

A ddaw'r syniad o America?

Mae'r syniad o'r etholiad wedi cael ei ddisgrifio yn aml fel "comisiynwyr etholedig tebyg i America". Ond dydi'r mwyafrif o gomisiynwyr yn America ddim yn cael eu hethol. Meiri dinasoedd yn aml sy'n eu penodi. Siryfion sy'n cael eu hethol yn uniongyrchol sy'n gofalu am weithredu'r gyfraith mewn pentrefi, trefi a dinasoedd o fewn siroedd sydd heb adrannau heddlu.

Sut y bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal?

Fe fydd 'na etholiad ym mhob ardal o luoedd heddlu Cymru a Lloegr ag eithrio Llundain. Bydd pawb sy'n gymwys i bleidleisio yn cael cymryd rhan. Y System Bleidleisio Atodol fydd yn cael ei ddefnyddio wrth i'r pleidleiswyr nodi eu dewis cyntaf ac ail ddewis o'r ymgeiswyr. Os na fydd yr un ymgeisydd yn cael mwyafrif ar y dewis cyntaf bydd y ddau ymgeisydd mwya' llwyddiannus yn mynd ymlaen i'r ail rownd a'r ail ddewis yn cael ei ystyried ar gyfer canfod enillydd. Y system yma sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dewis Maer Llundain.

Beth oedd yn bodoli cyn y comisiynwyr?

Yr Awdurdodau Heddlu oedd yn goruchwylio gwaith yr heddluoedd a hynny ers 1964. Nhw oedd yn dwyn y prif gwnstabl i gyfri. Roedden nhw'n cynnwys cynghorwyr lleol ac aelodau annibynnol oedd yn cael eu dewis. Roedd papur gwyn y llywodraeth yn nodi bod yr awdurdodau yma yn "anweledig" a bod angen eu diddymu gyda threfn newydd, comisiynwyr etholedig a phanel trosedd.

Beth yw'r panel heddlu a throsedd?

Eu bwriad yw dwyn y comisiynwyr i gyfri. Yng Nghymru fe fyddan nhw'n gyrff cyhoeddus annibynnol, wedi eu penodi yn benna' gan yr ysgrifennydd gwladol yn hytrach na phwyllgorau awdurdodau lleol. Yn Lloegr fe fyddan nhw'n cael eu gwneud o gynrychiolwyr awdurdodau lleol o fewn llu yr heddlu.

Beth mae'r cefnogwyr yn ei ddweud?

Mae cefnogwyr wedi dadlau y bydd y comisiynwyr yn gwneud yr heddlu yn fwy atebol ac yn ymateb yn well i anghenion lleol. Fe fyddan nhw'n ymgynghori gyda dioddefwyr troseddau wrth lunio blaenoriaethau plismona. Gallai eu profiad o feysydd eraill fod yn ddefnyddiol. Bydd yr etholiad yn dwyn pŵer o Whitehall a'i roi yn nwylo'r bobl leol.

Beth mae'r beirniaid yn ei ddweud?

Mae gwrthwynebwyr wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at yr heddlu yn dod o dan ddylanwad gwleidyddol gyda'r comisiynwyr yn ffafrio cynlluniau fydd yn dwyn y penawdau yn hytrach na thaclo troseddau difrifol. Maen nhw hefyd yn pryderu y gallai'r comisiynwyr ddechrau ymyrryd yn y modd y mae'r lluoedd yn cael eu rhedeg. Gyda disgwyl nifer isel o bobl i bleidleisio mae'r beirniaid yn cwestiynu pa mor ddilys fydd y canlyniadau.

Beth fydd y gost?

Dywed gweinidogion y bydd cost y comisiynwyr a'r paneli yn ddim mwy na chost rhedeg yr awdurdodau. Fe fydd 'na gost ychwanegol o gynnal yr etholiadau ond daw hwn o gronfa ganolog. Mae disgwyl i'r comisiynwyr gael cyflog o rhwng £65,000 a £100,000 y flwyddyn gan ddibynnu ar yr ardal.

Pam nad ydi Llundain yn rhan o'r newid?

Mae 'na Faer Etholedig yn Llundain sy'n gweithredu fel y comisiynydd ar gyfer ardal Heddlu'r Met. Yno mae'r panel wedi ei wneud gan aelodau o Gynulliad etholedig Llundain. Fe fydd Comisiynydd Heddlu'r Met yn parhau i fod yn un ar sail penodiad Brenhinol ar gyngor yr Ysgrifennydd Cartref.