Enw canolfan yn nodi llwyddiannau Jade Jones
- Published
Mae Pafiliwn y Fflint wedi cael ei agor yn swyddogol ar ei newydd-wedd a bydd yn cael ei ailenwi i nodi camp un o blant y dref yn y Gemau Olympaidd.
Fe enillodd Jade Jones fedal Aur yn y Gemau mewn Taekwando.
Bydd y pafiliwn yn cael ei adnabod o hyn allan fel Pafiliwn Jade Jones.
Roedd yr athletwraig yno ddydd Mawrth ar gyfer seremoni arbennig.
Y Cynghorydd Ann Minshull, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, agorodd y ganolfan yn swyddogol.
Mae cyfleusterau newydd y ganolfan eisoes ar agor i'r cyhoedd ac yn cynnwys lleoliad bowlio wyth lôn, caffi newydd a bar trwyddedig yn ogystal â lawnt fowlio dan do.
Mae'r ardal chwarae meddal newydd wedi'i henwi yn 'Môr-ladron y Pafiliwn' gan blant o ysgolion lleol.
'Rhywbeth i bawb'
"Mae llwyddiant anhygoel Jade wedi rhoi cymaint o hwb i dref y Fflint a chymuned Sir y Fflint gyfan," meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton.
"Mae'n addas felly fod y cyngor yn ailenwi canolfan hamdden ei thref enedigol i anrhydeddu'r llwyddiant hwnnw.
"Bydd yn anrhydedd haeddiannol fydd yn para oes."
Dywedodd y Cynghorydd Peter Macfarlane, Aelod o'r Cabinet dros Adfywio, Mentergarwch a Hamdden, bod hyn yn gyfnod cyffrous i Bafiliwn y Fflint.
"Mae'r ganolfan bowlio deg, y lawnt fowlio dan do a'r ardal chwarae meddal yn ein helpu i sicrhau fod ein cyfleusterau hamdden yn gyfoes yn Sir y Fflint ac yn cynnig rhywbeth i bob oedran yn y sir.
"Bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn bob math o chwaraeon."
Roedd y seremoni am 2.30pm.
Yn gynharach yn y dydd cafodd Jade Jones anrhydedd ddinesig yn Llandudno.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Awst 2012
- Published
- 10 Awst 2012
- Published
- 2 Tachwedd 2012