Apêl wedi i fenyw gael ei hanafu
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am dystion yn dilyn digwyddiad yn y ddinas nos Lun.
Cafodd menyw 30 oed ei darganfod yn gorwedd wrth ochr y ffordd gydag anafiadau i'w phen a'i chorff.
Dywed yr heddlu bod y fenyw yn gorwedd ar Ffordd Morfa yn ardal y Strand o'r ddinas, a bod rhywun wedi dod o hyd iddi rhwng 7pm ac 8:30pm nos Lun, Tachwedd 5.
Mae'r ardal wedi ei chau i'r cyhoedd ac mae archwiliad fforensig o'r safle yn digwydd ar hyn o bryd.
Cafodd y fenyw ei chludo i Ysbyty Treforys er mwyn cael triniaeth am ei hanafiadau, ond credir nad yw ei bywyd mewn perygl.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren George o heddlu Abertawe: "Rydym yn ceisio sefydlu sut y cafodd y fenyw yma'r anafiadau.
"O'r ymholiadau hyd yma, rydym yn gwybod bod nifer sylweddol o bobl yn yr ardal, ac rwy'n apelio arnyn nhw i gysylltu â ni gan ei bod yn bosib iawn fod ganddyn nhw wybodaeth allai fod yn allweddol i ni er mwyn canfod beth yn union ddigwyddodd."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu yn Abertawe drwy ffonio 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.