Dewis Knoyle yn lle Phillips
- Published
Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, wedi gadael Mike Phillips allan o'r tîm yn erbyn Ariannin ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd a dewis Tavis Knoyle yn ei le.
Bydd prop pen-tynn y Gweilch, Aaron Jarvis, yn ennill ei gap cyntaf am fod Adam Jones wedi ei anafu.
Yn y rheng ôl mae Josh Turnbull yn y tîm oherwydd anafiadau Ryan Jones a Dan Lydiate.
Scott Williams fydd yn y canol oherwydd anaf Jonathan Davies.
Bydd Phillips, sydd wedi ennill 68 cap ac wedi bod ar daith y Llewod i Dde Affrica, ar y fainc.
Dywedodd Howley: "Mae cwpwl o anafiadau wedi ein gorfodi i wneud newidiadau ond mae'r ffaith ein bod yn gallu enwi tîm gyda chymaint o brofiad o'r Gamp Lawn yn dangos y cryfder sydd wedi datblygu yn y garfan dros y blynyddoedd diweddar.
"Yn amlwg, mae cyfleoedd i bobl fel Aaron, Tavis a Josh i wisgo crys Cymru yn erbyn Ariannin a cheisio cadw'r crys wedi hynny.
"Rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd cael dechrau da yn erbyn Ariannin wrth edrych ymlaen i gyfres yr hydref. Maen nhw'n cyrraedd ar ddiwedd cyfres galed yn erbyn timau Hemisffer y De."
Y newyddion da i Gymru yw bod Jamie Roberts yn dychwelyd i'r tîm ynghyd â Toby Faletau ac Ian Evans.
CYMRU v. ARIANNIN: ddydd Sadwrn, Tachwedd 9; Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
15-Leigh Halfpenny (Gleision); 14-Alex Cuthbert (Gleision), 13-Scott Williams (Scarlets), 12-Jamie Roberts (Gleision), 11-George North (Scarlets); 10-Rhys Priestland (Scarlets), 9-Tavis Knoyle (Scarlets); 1-Gethin Jenkins (Toulon), 2-Matthew Rees (Scarlets), 3-Aaron Jarvis (Gweilch), 4-Alun Wyn Jones (Gweilch), 5-Ian Evans (Gweilch), 6-Josh Turnbull (Scarlets), 8-Toby Faletau (Dreigiau), 7-Sam Warburton (Gleision, capten).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Robin McCusker (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Tachwedd 2012
- Published
- 31 Hydref 2012
- Published
- 26 Hydref 2012