Gwrthod hawl Ched Evans i apelio
- Published
Yn y Llys Apêl yn Llundain mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi colli'r hawl i apelio yn erbyn euogfarn.
Fe gafwyd y dyn fu'n chwarae i Sheffield United a Chymru yn euog yn gynharach eleni o dreisio menyw 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill.
Roedd pêl-droediwr arall, ei gyfaill Clayton McDonald, yn ddieuog o'r un cyhuddiad.
Roedd y ddau wedi cyfadde' cael rhyw gyda'r fenyw a'r ddau wedi dweud bod y fenyw wedi cydsynio.
Dywedodd yr erlyniad yn yr achos gwreiddiol bod y fenyw yn rhy feddw i fedru cydsynio.
Roedd apêl Evans ym mis Awst i wrthdroi'r euogfarn hefyd yn aflwyddiannus.
Yn y Llys Apêl ddydd Mawrth roedd yn ceisio'r hawl i apelio yn erbyn yr euogfarn, ond roedd yn aflwyddiannus.
Roedd yr Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Judge yn cadeirio panel o dri barnwr oedd yn cynnwys Mr Ustus Mitting a Mr Ustus Griffith Williams.
Dywedodd yr Arglwydd Judge: Ni allwn weld unrhyw sail bosib a fyddai'n cyfiawnhau i ni ymyrryd gyda barn y rheithgor a glywodd yr holl dystiolaeth, ac a ystyriodd y dystiolaeth yn ofalus yn dilyn crynodeb gofalus gan y barnwr."
Clywodd y barnwyr ail apêl gan Evans yn erbyn y ddedfryd o bum mlynedd o garchar, ond roedd yr apêl hwnnw'n aflwyddiannus hefyd.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Awst 2012
- Published
- 1 Mehefin 2012
- Published
- 30 Mai 2012
- Published
- 24 Ebrill 2012
- Published
- 23 Ebrill 2012
- Published
- 20 Ebrill 2012