Charlton 5-4 Caerdydd

Published
image copyrightPA
image captionJohnnie Jackson (chwith) yn dathlu ei ail gôl i Charlton yn erbyn Caerdydd

Charlton 5-4 Caerdydd

Mae Caerdydd wedi disgyn o frig Y Bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Charlton nos Fawrth.

Roedd 'na naw gôl i gyd yn y Valley wrth i Gaerdydd golli eu pedwerydd o'u pum gêm ddiwethaf oddi cartref.

Mae eu rhediad cartref yn gwbwl wahanol gan eu bod wedi ennill y saith gêm ers dechrau'r tymor.

Wedi mynd ar y blaen yn erbyn Charlton o 2-0 daeth y tîm cartref yn ôl gan sgorio pump a synnu'r ymwelwyr.

Ond llwyddodd Caerdydd i ganfod y rhwyd ddwywaith wedyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau, ond ychdig yn rhy hwyr oedd ymdrechion Craig Noon ac Aron Gunnarsson.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi pedwar munud wrth i Heidar Helguson benio i'r rhwyd.

Amser ychwanegol

Ac fe aeth Caerdydd ymhellach ar y blaen wrth i Joe Mason ergydio i ganol y gôl.

Ond wedi 38 munud fe ddaeth y tîm cartref yn ôl diolch i Johnnie Jackson rwydodd o du allan i'r blwch.

Ac yn yr amser ychwanegol gafwyd cyn diwedd yr hanner cyntaf fe wnaeth Jackson benio ei ail gôl i sicrhau bod y sgôr yn gyfartal ar yr hanner.

Dale Stephens gafodd drydedd gôl Chartlon wedi 53 munud cyn i Danny Haynes rwydo i'r tîm cartref bum munud yn ddiweddarach.

Daeth pumed gôl Chartlon gan Robert Hulse wedi 64 munud.

Cafodd Noon gôl wedi 90 munud i Gaerdydd cyn i'r eilydd Gunnarsson sicrhau pedwaredd Caerdydd.

Mae Adar Gleision bellach yn drydydd yn y tabl y tu ôl i Crystal Palace a Middlesbrough.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol