FIFA: Cymru yn disgyn naw lle

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Wedi curo'r Alban fis Hydref bydd Cymru yn teithio yno fis Mawrth

Mae Cymru wedi disgyn naw lle ar restr detholion y byd.

Yn rhestr ddiweddaraf y corff rheoli pêl-droed, FIFA, mae Cymru i lawr i safle 66, pedwar lle uwchben Yr Alban sydd yn yr un grŵp â nhw yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan Pêl-Droed y Byd 2014.

Bydd Cymru'n herio'r Alban oddi-cartref yn eu gêm nesaf ar Fawrth 22 2013 cyn chwarae yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Yn ôl rhestr FIFA mae Croatia yn y 10fed safle ar hyn o bryd.

Y timau eraill yng ngrŵp Cymru yw Gwlad Belg a Macedonia.

Mae Gwlad Belg wedi codi 10 safle i safle 20 ac mae Macedonia wedi esgyn 21 lle i safle 83.

Bydd Cymru yn herio Awstria yn Abertawe ar Chwefror 6 2013 mewn gêm gyfeillgar.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol