Barack Obama yn cael ei ailethol yn Arlywydd America
- Published
Mae Barack Obama wedi ei ethol am bedair blynedd arall fel Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Fe lwyddodd y gyrraedd y nod o 270 o bleidleisiau yn y coleg etholiadol er mwyn sicrhau buddugoliaeth dros y Gweriniaethwr Mitt Romney.
Dywedodd Mr Obama wrth gefnogwyr yn Chicago y byddai'n siarad gyda Mr Romney ynglŷn â "sut y gallwn ni gydweithio er mwyn sicrhau bod America yn symud ymlaen".
Erbyn diwedd y cyfrif daeth cadarnhad bod y Democratiaid hefyd wedi dal eu gafael ar y Senedd tra bod gan y Gweriniaethwyr fwyafrif yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr o hyd.
Gyda dim ond talaeth Florida heb benderfynu, fe enillodd Mr Obama 303 o bleidleisiau'r coleg o'i gymharu â 206 i Mr Romney.
Ond o ran canran yr holl bleidleisiau roedd y ras yn llawer agosach.
Llwyddodd Mr Obama i gipio nifer o daleithiau ymylol gan gynnwys Colorado, Iowa, Pennsylvania, Michigan, Minnesota, Virginia Wisconsin ac Ohio.
Llwyddodd Mr Romney i gipio Gogledd Carolina ac Indiana, dwy dalaith oedd wedi pleidleisio i Obama yn 2008.
Roedd y ddwy ochr wedi gwario $2bn (£1.25bn) ar yr ymgyrch etholiadol.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Tachwedd 2012
- Published
- 2 Tachwedd 2012