Côr o ferched am y tro cynta' yn Eglwys Gadeiriol Bangor
- Published
Am y tro cyntaf mewn 1,437 mlynedd mae gan Eglwys Gadeiriol Bangor gôr o ferched yn unig sy'n cymryd rhan cyson mewn gwasanaethau.
O'r wythnos yma ymlaen mae'r merched yn cymryd rhan yn y gosber bob dydd Llun.
Mae nifer o eglwysi eisoes yn caniatau aelodau newydd yn eu corau ac mae Bangor bellach yn cydymffurfio â rheolau cydraddoldeb.
Dywedodd y Parchedig Ganon Robert Townsend, swyddog cyfathrebu'r esgobaeth, mai traddodiad yn unig oedd hi mai dynion a bechgyn oedd yn canu mewn corau eglwysig.
"Fe fyddai arweinwyr corau yn dweud wrthoch chi na ddylech chi gymysgu lleisiau dynion a merched.
"Mae angen purdeb.
"Tan nawr rydym wedi cael bechgyn o ysgolion lleol.
"Ond roedden ni'n credu y dylem symud ymlaen a rhoi'r un cyfle i ferched."
Braint
Mae 'na 14 o ferched yn y côr newydd sy'n amrywio o ran oed o saith oed i 17 oed.
Dyma'r cantorion benywaidd cyntaf ym Mangor ers i'r eglwys gael ei sefydlu yno yn y 6ed Ganrif.
Dywedodd y Parchedig Ganon Michael Outram, sy'n cynorthwyo gyda'r corau, ei bod yn fraint cael côr o ferched.
Dywedodd Deon Bangor, Y Tra Pharchedig Dr Sue Jones, bod gan nifer o gadeirlanau ym Mhrydain gorau i leisiau bechgyn a merched ar wahan.
"Wedi 1,437 mlynedd, mae'n benod newydd yn ein traddodiad corawl yma," meddai.
"Mae'n ddatblygiad naturiol a fydd o gymorth i sicrhau bod y bechgyn a'r merched yn y corau ac yn parhau i ganu mawl am flynyddoedd i ddod."
Bydd y merched yn cymryd rhan bob nos Lun am 5.30pm yn ystod y tymor ysgol.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Rhagfyr 2011
- Published
- 29 Tachwedd 2008
- Published
- 7 Hydref 2008