Ymgyrch achub Cymro oedd yn gaeth mewn cwch yn y Môr Tawel

Stephen Jones a Tanya Davies Image copyright Dave Lloyd
Image caption Mae Mr Jones wedi cael anafiadau i'w gefn

Mae hwyliwr o ogledd Cymru a'i bartner wedi cael eu hachub ar ôl mynd i drafferthion yn y Cefnfor Tawel ddydd Mercher.

Fe wnaeth dwy long gyrraedd cwch hwylio Windigo lle roedd Stephen Jones, 52 oed o Gyffordd Llandudno, a Tanya Davies o Seland Newydd.

Dywed y gwasanaethau achub iddyn nhw dderbyn neges frys oddi wrth y cwch hwylio ddydd Mercher.

Trodd y cwch ben i waered mewn gwyntoedd uchel 700 cilomedr i'r de orllewin o ynys Tonga.

Image copyright other

Y gred yw bod Mr Jones wedi anafu ei gefn, ond nid yn ddifrifol.

Roedd awyrennau o Seland Newydd a Llynges Ffrainc wedi bod mewn cysylltiad radio gyda'r ddau.

Mae mam Mr Jones, Elizabeth, wedi bod mewn cysylltiad â Gwylwyr y Glannau yn Seland Newydd.