Rownd gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd a Chaerfyrddin wedi cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan y Gynghrair.

Nos Iau fe wnaeth Caerfyrddin faeddu Llanelli 2-1 gyda goliau gan Casey Thomas (28 munud) a Julian Alsop (69'), a hynny ar ôl i Antonio Corbisiero (17') roi Llanelli ar y blaen.

Roedd gwledd o goliau yn y gêm arall wrth i'r Seintiau guro Airbus 5-2.

Daeth goliau'r Seintiau gan Ryan Fraughan (30'), Chris Marriott (40'), Chris Seargeant (63'), Alex Darlington (90'+1) a Jason Lampkin (90'+2).

Sgoriwyd goliau Airbus gan Tommy Holmes (13') a Mike Hayes (47').