Trydaneiddio Rheilffordd: Busnesau'n poeni

  • Cyhoeddwyd
Trên cwmni First Great WesternFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymestyn y cynllun o Lundain i Abertawe yn golygu cwtogi'r daith o 20 munud

Mae busnesau'n poeni ar ôl i waith ddechrau ar bontydd er mwyn trydaneiddio'r llinell reilffordd yn ne Cymru gan achosi dargyfeiriad ffordd 10 milltir o hyd.

Dywed Network Rail y bydd yn rhaid i bontydd gael eu codi ar gyfer ceblau trydan i sefydlu'r system drydan rhwng Llundain ac Abertawe a chymoedd y de.

Bydd y dargyfeiriad ffordd yn Llansanffraid Gwynllŵg, Casnewydd yn para chwe mis.

Mae'r cwmni yn gobeithio na fydd llawer o aflonyddwch ond mae perchennog tafarn leol yn honni y gallai'r busnes gau ymhen wythnosau oherwydd diffyg cwsmeriaid.

'Busnesau yn bryderus'

Dywedodd Sue Jones, perchennog tafarn The Inn at the Elm Tree fod ei busnes wedi dioddef yn arw ers i'r bont gau ddydd Llun.

"Rydym yn dibynnu ar fasnach pobl sy'n mynd heibio'r dafarn oherwydd rydym yn westy, bwyty, a thafarn," meddai.

"Pwy fydd yn gyrru 10 milltir yn fwy i fynd i'r dafarn?

"Mae'n sefyllfa bryderus ac fe fyddwn ni'n ffodus i aros ar agor tan y Nadolig."

Mae'n daith o ddwy filltir o Lansanffraid Gwynllŵg i Ddyffryn yng Nghasnewydd dros y bont rheilffordd.

Ond oherwydd bod y bont ar gau bydd yn rhaid i yrwyr deithio 10 milltir am y chwe mis nesaf.

'Yr unig opsiwn'

Dywedodd Cathy Turner, clerc y cyngor cymuned lleol: "Rwy'n gwybod fod busnesau yn bryderus.

"Rwy'n deall bod yn rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni ond does bosib y gallai gael ei gyflawni yn gyflymach na chwe mis.

"Rydym yn poeni bydd bont arall ym Maerun yn cael ei chau fydd yn achosi mwy o broblemau."

Yn ôl Network Rail fod y gwaith yn yr ardal yn hanfodol ac mai'r dargyfeiriad oedd yr unig opsiwn posib.

"Mae Netork Rail yn talu am fws ychwanegol rhwng Casnewydd a Llansanffraid Gwynllŵg i leihau'r aflonyddwch i'r gymuned leol," meddai llefarydd ar ran Netowrk rail.

Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddodd Llywodraeth Prydain fanylion cynllun i fuddsoddi £9 biliwn ar wella'r rheilffyrdd.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys trydaneiddio rheilffordd y Great Western o Lundain, yr holl ffordd i Abertawe.

Bydd rhan helaeth o reilffyrdd y cymoedd yn cael eu trydaneiddio hefyd gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.

Mae ymestyn y cynllun o Lundain i Abertawe yn golygu cwtogi'r daith o 20 munud rhwng Paddington ac Abertawe.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol