Rheilffordd: Llusgo 'tywysoges' allan o dafarn
- Published
Cafodd y trên stêm rheilffordd gul gyntaf yn y byd ei lusgo allan o dafarn a'i baratoi ar gyfer taith i Lundain ddydd Sadwrn.
Cafodd y Princess ei hadeiladu yn Nwyrain Llundain ym 1863 cyn cael ei throsglwyddo i Reilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog y flwyddyn honno.
Y Princess oedd y trên stêm rheilffordd gul gyntaf i deithio ar reilffordd Ffestiniog a'r trên olaf i ddefnyddio'r cledrau cyn i'r rheilffordd gau ym 1946.
Yn y flwyddyn newydd bydd y trên yn teithio i orsaf Paddington yn Llundain lle bydd yn cael ei arddangos am chwe wythnos o Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu pen-blwydd y trên yn 150 oed.
'Dadgysylltu drysau'
Ond cyn hynny roedd rhaid llusgo'r Princess allan o dafarn Spooner yng Ngorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog fore Sadwrn.
"Mae'r Princess wedi bod yn y dafarn am 31 mlynedd," meddai Andrew Thomas o Reilffordd Ffestiniog.
"Roedd yn rhaid inni ddatgysylltu drysau mawr o ochr y dafarn gan sicrhau bod y trên yn gallu mynd trwy'r adwy.
"Mae hen injan dân oedd yn cael ei thynnu gan geffylau o bwerdy'r Wylfa yn cymryd lle'r Princess dros dro."
Cafodd y Princess ei gludo ar draws Cob Porthmadog i weithdy cyfagos cyn cael ei beintio'r un lliw a'r ail drên stêm rheilffordd gul yn y byd, Y Prince, sydd hefyd wedi ymgartrefu ym Mhorthmadog.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Hydref 2012
- Published
- 11 Mai 2012
- Published
- 2 Rhagfyr 2011
- Published
- 30 Hydref 2011