200 o swyddi yn y fantol yn Llantrisant
- Cyhoeddwyd
Mae undeb Unite wedi dweud bod cwmni cynhyrchu cydrannau ceir yn Llantrisant yn bwriadu cau a diswyddo 200.
Dywedodd Mick Antoniw, AC Pontypridd, fod prif weithredwr Sogefi wedi cadarnhau bod y cyfnod ymgnghori wedi dechrau.
"Daw'r newyddion fel ergyd drom gan fod y gweithwyr newydd ddechrau gweithio oriau llawn unwaith yn rhagor ar ôl cyfnod anodd y llynedd pan gafodd hanner y gweithlu eu diswyddo ...," meddai Andrea Jones o'r undeb.