Oedi i gynllun arfordirol yn costio £250,000 i'r trethdalwr

  • Cyhoeddwyd
Amddiffynfeydd arfordirol yn Y BorthFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Ym mis Ebrill 2011 cafodd miloedd o dunelli o greigiau eu cludo o Norwy i adeiladu'r creigresi

Mae cynllun amddiffyn arfordirol mewn pentref yng Ngheredigion wedi costio £500,000 yn fwy na'r disgwyl wedi nifer o broblemau.

Mae'n debyg y bydd rhan o'r baich ariannol yn cwympo ar ysgwyddau'r trethdalwr, oherwydd yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r rhan helaeth o'r gorwariant.

Dywed y cyngor sir fod y contract safonol yn cynnwys cymal tâl cosb am oedi a bydd y contractwyr yn talu 50% o'r gorwariant.

Yn ôl adroddiad gerbron cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth roedd costau rhan gyntaf cynllun Y Borth wedi cynyddu oherwydd oedi o 18 wythnos wedi nifer o broblemau nad oedd modd eu rhagweld.

Dywedodd yr adroddiad fod swm tendr cwmni BAM Nuttall yn £10,509,000 ond bod y gost wedi codi i £11,054,153 - gwahaniaeth o £545,153.

Darparwyd y rhan helaeth o'r cyllid gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru (57%) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (41%), a Chyngor Sir Ceredigion ariannodd y gweddill.

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn lleihau risg llifogydd ac erydu arfordirol yn yr ardal ger Aberystwyth dros y ganrif nesaf.

'Nifer o broblemau'

Mae dwy greigres artiffisial wedi eu gosod 300 metr i mewn i'r môr gyda'r nod o ddenu syrffwyr i'r traeth sy'n ymestyn am bedair milltir.

Roedd amddiffynfeydd wedi eu codi yn 1960 ac mae'r rhai newydd yn gwarchod 420 o dai a busnesau, gan gynnwys 40 o adeiladau masnachol, Rheilffordd y Cambrian a ffordd y B4353.

Ym mis Ebrill 2011 cafodd miloedd o dunelli o greigiau eu cludo o Norwy i godi'r creigresi.

Ond, yn ôl yr adroddiad, roedd nifer o broblemau wedi achosi'r gorwariant: -

  • Yn gynnar yn y cytundeb roedd y mawn a'r clai a oedd o dan y graig yn fwy bas ac eang nag a dybiwyd. Arweiniodd hyn at bron i bythefnos o oedi;
  • Roedd lefel gwely'r môr o dan y creigresi alltraeth wedi newid ers arolwg a wnaed cyn dechrau'r gwaith yn haf 2010. O ganlyniad, bu'n rhaid defnyddio cerrig ychwanegol. Fe gymerodd hyn dair wythnos ychwanegol i'w gwblhau;
  • Ym mis Medi 2011 cafwyd tywydd stormus iawn a achosodd bythefnos o oedi;
  • Cafodd hyn effaith andwyol am fod y gwaith o adeiladu'r greigres bellach wedi ei fwrw ymlaen i gyfnod yr Hydref / Gaeaf. Er bod modd gweithio 10 awr y dydd yng nghanol yr haf; roedd cyfuniad o ostyngiad mewn golau dydd a llanwau yn golygu mai dim ond pedair awr y dydd oedd yn bosib yn y gaeaf.
  • Bu oedi ychwanegol o 11 wythnos am fod yn rhaid cael cerrig mawrion ychwanegol i gwblhau'r greigres.

'Cynnydd yn y gost'

Roedd gofyn gwneud gwaith sylweddol i amddiffyn yr arfordir ar hyd traeth y Borth er mwyn atal erydiad yr arfordir a lleihau'r perygl o lifogydd a difrod i dai ac adeiladau yn y pentref.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Bu cynnydd yn y gost oherwydd oedi yn sgil nifer o ddigwyddiadau nad oedd modd eu rhagweld, gan gynnwys tywydd eithriadol o stormus.

"Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r rhan helaeth o'r gorwariant, gyda Chyngor Sir Ceredigion hefyd yn cyfrannu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw sylw am y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol