Cwpan LV: Gweilch 33-27 Caerloyw
- Cyhoeddwyd

Gweilch 33-27 Caerloyw
Roedd 'na fuddugoliaeth i'r Gweilch wrth i gystadleuaeth rygbi Eingl Gymreig ddechrau am y tymor.
Roedd Y Gweilch yn croesawu Caerloyw i Stadiwm Liberty yng Nghwpan LV nos Wener.
Roedd cais hwyr gan Morgan Allen yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.
Caerloyw wnaeth ddominyddu'r hanner cyntaf gyda chais gan Yann Thomas a chicio cywir Billy Burns.
Ond llwyddodd Matthew Morgan gyda dwy gic adlam yn yr hanner cyntaf a thair cic gosb i roi'r fantais i'r Gweilch.
Croesodd Dan Murphy i'r ymwelwyr a gafodd gais cosb hefyd.
Ond fe wnaeth Tom Grabham groesi i'r Tîm cartref cyn i Allen selio'r fuddugoliaeth.
Llwyddodd Sam Davies, ddaeth ymlaen yn lle Morgan wedi 59 munud i drosi cais a chael cic gosb er gwaetha'r ffaith bod ei dad, Nigel, yn hyfforddi'r ymwelwyr.