Cyhuddo dau wedi lladrad arfog

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun(C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunDylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ladrad arfog mewn bwyty wedi cyhuddo dau ddyn lleol o ladrata.

Roedd y lladrad o fwyty Samraat yn ardal Cefncaeau, Llanelli, nos Sadwrn, Tachwedd 3.

Mae'r ddau ddyn yn 39 a 21 oed.

Byddan nhw gerbron ynadon Llanelli ar Dachwedd 10.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol