Southampton 1-1 Abertawe

Rickie Lambert o Southampton yn cael y gorau ar Garry Monk Image copyright PA
Image caption Rickie Lambert o Southampton yn cael y gorau ar Garry Monk

Camgymeriad gan amddiffynwr barodd i Abertawe ddod â rhediad o dair colled yn olynol oddi cartre i ben trwy achub pwynt yn Southampton.

Roedd Morgan Schneiderlin wedi rhoi'r Seintiau ar y blaen gyda pheniad wedi croesiad celfydd Rickie Lambert wedi 63 munud.

Ond daeth yr Elyrch yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach pan fanteisiodd cyn-chwaraewr Southampton Nathan Dyer ar reolaeth gwael Maya Yoshida o'r bêl gan anelu'n llwyddiannus am gornel y rhwyd.

A bu bron i'r ymwelwyr gipio buddugoliaeth yn y munudau olaf, gyda Daniel Fox yn ymestyn i'r eithaf i arbed ymgais Itay Shechter.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn yr 11fed safle.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 10 12 24
2. Chelsea 10 12 23
3. Man City 10 9 22
4. Everton 11 7 20
5. West Brom 11 5 20
11. ABERTAWE 11 1 13

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.