Arestio dyn wedi marwolaeth yn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn fflat yng Ngwynedd.
Daethpwyd o hyd i'w gorff yn Y Bala am 5:40pm ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu'r Gogledd yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol