Andy Legg yn ymddiswyddo fel rheolwr pêl-droed Llanelli
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae rheolwr clwb pêl-droed Llanelli, Andy Legg, wedi ymddiswyddo.
Daeth penderfyniad cyn chwaraewr Abertawe a Chaerdydd ar ôl i Lanelli golli 6-1 yn erbyn Cei Conna ddydd Sul.
Roedd y gêm gartref ar Barc Stebonheath yn Uwchgynghrair Cymru.
Mae'r clwb wedi diodde' problemau ariannol dros y misoedd diwethaf.
Fe wnaethon nhw oroesi cais i'w dirwyn i ben yn yr Uchel Lys fis Medi.
Roedd yr Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gwneud cais am fod y clwb wedi methu talu dyledion.
Bu Legg yn rheolwr ar y clwb ers 2009.
Enillodd Llanelli Gwpan Cymru yn 2011 a'r tymor diwethaf roedden nhw'n drydydd yn yr Uwchgynghrair tu ôl i Fangor a'r Seintiau Newydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Tachwedd 2012
- Published
- 29 Medi 2012
- Published
- 3 Medi 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol