Mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Y Bala dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Heol Y Plase tua 5.40pm ddydd Sadwrn.
Yno daethpwyd o hyd o gorff dyn 42 oed o Ddwyrain Ewrop.
Cafodd dyn yn ei 20au hefyd o ddwyrain Ewrop ei arestio yn ddiweddarach yr un noson mewn cyfeiriad cyfagos.
Roedd o flaen Ynadon Prestatyn ddydd Llun lle apeliodd yr heddlu am fwy o amser i'w holi.
Yn gynharach fore Llun cafodd pedwar, tri o bobl leol ac un o ddwyrain Ewrop, eu harestio mewn cysylltiad â chynorthwyo troseddwr.
Maen nhw yn cael eu holi mewn gorsaf heddlu lleol.
Dydi'r dyn a fu farw ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol. Fydd yr heddlu ddim yn cyhoeddi manylion tan y bydd ei deulu yn cael gwybod.
Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi ei hysbysu.
Dylai unrhyw un oedd yng nghyffiniau Heol Y Plase ddydd Sadwrn, Tachwedd 10, neu unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101.