Ras rhwng Machynlleth ac Aberteifi i gefnogi'r Gymraeg
- Published
Mae cyfarfod wedi trafod cynnal ras gyfnewid ddi-gystadleuaeth, Ras Glyndŵr, o Senedd-dŷ Glyndŵr ym Machynlleth i Aberteifi.
Y nod yw cynnal y ras gyntaf ddydd Sadwrn, Medi 15 2013.
Roedd y cyfarfod ddydd Iau yng nghanolfan Theatr Felin-fach ger Aberaeron.
Bydd mudiadau, clybiau, teuluoedd, ysgolion ac unigolion yn talu i brynu 1 cilometr o'r daith, gan basio baton fesul cilometr.
'Creu baton'
Penderfynwyd cynnal y ras ym Medi er mwyn osgoi gwyliau mawr fel Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr a'r Genedlaethol.
Medi 16 hefyd yw Diwrnod Glyndŵr gan mai ar y dyddiad y coronwyd ef yn Dywysog Cymru yn 1400.
"Mae'n amser dathlu'r Gymraeg a thynnu ynghyd bobl o bob cefndir a diddordeb sydd yn cefnogi'r iaith - yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu'n ddi-Gymraeg," meddai Gwenno Hywel, Trefnydd Cered, Menter Iaith Ceredigion, sy'n cydlynu'r digwyddiad.
"Bydd yn costio £50 i noddi cilomedr ond gall un neu fwy o bobl redeg y cilometr yma yn enw eu clwb pêl-droed, cangen o Ferched y Wawr, tafarn neu ysgol.
"Byddwn yn comisiynu crefftwr i greu baton arbennig a'n bwriad yw cynnal digwyddiadau ar hyd y daith.
"Bydd yr elw yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau i hybu'r Gymraeg."
Mae Ras Glyndŵr yn seiliedig ar rasys yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg.
Yn ddi-stop
Cynhaliwyd y ras gyntaf o'i math, y Korrika, yng Ngwlad y Basg, ym 1980.
Erbyn hyn, mae'r Basgwyr yn rhedeg yn ddi-stop 24 awr y dydd am 10 diwrnod, gan godi cannoedd o filoedd o bunnoedd tuag at ddysgu Basgeg i oedolion.
Bachwyd ar y syniad gan y Llydawyr ac ym mis Mai 2012 roedd eu ras nhw, y Redadeg, yn ddi-stop ddydd a nos, dros 1,400 cilometr ar draws Llydaw.
Eleni hefyd, cynhaliwyd yr An Rith o blaid y Wyddeleg - taith 1,000 cilometr, gan gynnwys Deri, Belffast a Dulyn.
"Mae'n amser i ni ddathlu'r Gymraeg," meddai Siôn Jobbins sydd wedi rhedeg yn y Korrika, y Redadeg a'r Rith.
"Ac mae'n bryd i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd a dangos ychydig o wmff a hwyl dros yr iaith yn hytrach na disgwyl i eraill weithio ar ein rhan.
"Bydd Ras Glyndŵr yn ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd, codi arian ac ymwybyddiaeth dros yr iaith a dathlu ein bod ni yma o hyd."