Damwain M5: Mechnïaeth i ŵr mewn cysylltiad â marwolaeth saith

Lleoliad damwain M5 Tachwedd 2011 Image copyright PA
Image caption Cafodd saith eu lladd, 51 eu hanafu yn y ddamwain rhwng 34 o gerbydau

Mae dyn wedi bod yn Llys Ynadon Bryste yn wynebu saith gyhuddiad o ddynladdiad ar ôl damwain farwol ar yr M5 yng Ngwlad yr Haf.

Bu farw saith ac fe gafodd 51 eu hanafu yn y ddamwain rhwng 34 o gerbydau flwyddyn yn ôl.

Geoffrey Counsell o Wlad yr Haf drefnodd arddangosfa tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Taunton mewn cae ger y draffordd ar Dachwedd 4 2011.

Cafodd y dyn 50 oed fechnïaeth ac mae disgwyl iddo fod yn Llys y Goron Bryste ar Ragfyr 4.

Bu farw'r taid a nain o Gasnewydd, Anthony a Pamela Adams, yn y ddamwain.

Hefyd bu farw'r gyrwyr lori Terry Brice, o Patchway, de Sir Gaerloyw, a Kye Thomas, o Gunnislake, Cernyw.

Cafodd y tad a'r ferch Michael a Maggie Barton, o Windsor, Berkshire, a Malcolm Beacham o Woolavington, ger Bridgwater eu lladd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.