Cyhoeddi cynllun gwarantu morgeisi
- Published
Mae manylion cynllun gwarantu morgeisi sy'n helpu'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf a'r rhai sydd am gartref mwy o faint wedi ei gyhoeddi.
Bydd y cynllun tair blynedd a hanner yn dechrau'r gwanwyn nesaf.
A bydd y morgeisi ar gael i bob prynwr mewn ardaloedd ag anghenion o ran tai ac i bob prynwr tro cyntaf ar gyfer hyd at 3,000 o dai newydd sy'n werth hyd at £250,000.
Cafodd y cynllun ei awgrymu gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod trafodaethau ynglŷn â'r gyllideb y llynedd.
'Sbarduno'r economi'
Fydd arian ddim yn cael ei roi i bobl yn uniongyrchol.
Y syniad yw bod Llywodraeth Cymru ac adeiladwyr tai yn warantwyr er mwyn i bobl gael morgeisi na fyddai ar gael iddyn nhw fel arall.
Bydd prynwyr tai yn cyfrannu blaendal o 5%.
"Bydd y cynllun yn cefnogi prynwyr tai sydd angen help gyda'u blaendal," meddai Peter Black, llefarydd tai'r Democratiaid Rhyddfrydol.
"Bydd y cynllun hefyd yn sbarduno'r economi a chynyddu swyddi yn y maes adeiladu."
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, fod y cynllun yn un arloesol fyddai'n helpu prynwyr, y diwydiant tai a'r gymuned.
"Bydd y cynllun yn helpu pobl sydd wedi methu â phrynu eu tŷ cyntaf neu sydd wedi methu â symud i dŷ mwy o faint oherwydd cyfyngiadau benthyg banciau.
"Bydd hefyd yn golygu bod adeiladwyr tai yn cael cwsmeriaid newydd."
"Felly bydd y cynllun yn hybu adeiladu tai gan greu swyddi a sbarduno tyfiant."
'Hen gyhoeddiadau'
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £27 miliwn ar gyfer y cynllun.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, fod y cynllun yn rhan o brosiect ar gyfer swyddi a thyfiant gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai eleni.
Ar y pryd dywedodd gwrthwynebwyr fod y prosiect dim ond yn cynnwys hen gyhoeddiadau oedd wedi eu hail becynnu.
Ond yn ôl Ms Hutt bydd y cynllun yn darparu "buddsoddiad posib o £500 miliwn mewn tai dros gyfnod o dair blynedd".
"Fe fyddwn ni'n cydweithio â'r Cyngor Benthycwyr Morgeisi a'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i sicrhau bod y cynllun yn dechrau erbyn y Gwanwyn 2013," meddai.
Dywedodd Richard Price o Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru fod y cynllun yn "hwb i brynwyr tai".
"Ni fydd y cynllun ar gyfer bobl prynu tai na allan nhw fforddio," meddai.
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Tachwedd 2012
- Published
- 14 Chwefror 2012
- Published
- 18 Ionawr 2010
- Published
- 13 Rhagfyr 2011