Cytundeb saith mlynedd rhwng y Post a'r DVLA i ddarparu treth ceir
- Cyhoeddwyd

Bydd modd i yrwyr brynu treth car mewn swyddfeydd post am saith mlynedd arall ar ôl i'r Swyddfa'r Post ennill cytundeb £450 miliwn.
Mae'r cytundeb gyda'r DVLA hefyd yn caniatáu i'r Swyddfa'r Post brosesu ceisiadau trwyddedau gyrru a newid i drwyddedau lluniau.
Yn y cytundeb newydd mae opsiwn i'w estyn am dair blynedd arall.
Yn ôl undebau, mae'r gwasanaethau yn allweddol i gadw'r swyddfeydd post ar agor.
Roedd disgwyl i'r cytundeb presennol rhwng y DVLA a'r Swyddfa'r Post ddod i ben ym mis Mawrth ond mae ymgyrch hir wedi arwain at ei adnewyddu.
Roedd rhwydwaith PayPoint yn ymgeisio am y cytundeb.
'Arbedion'
"Dwi'n llongyfarch y Swyddfa'r Post a dwi'n hyderus y byddan nhw'n darparu gwasanaeth gwych i yrwyr," meddai Ysgrifennydd Trafnidiaeth Prydain, Patrick McLoughlin.
"Mae'r cytundeb hefyd yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwyr, gan arwain at arbedion o hyd at £15 miliwn y flwyddyn.
"Mae'n dangos pa mor ddifrifol yw ein hagwedd at wneud arbedion."
Dywedodd Paula Vennells, Prif Weithredwr Swyddfa'r Post, fod y penderfyniad yn tanlinellu record gref y cwmni wrth gynnig gwasanaethau a chystadlu ar sail pris ac ansawdd.
Mae George Thomson, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn yr Is-Bostfeistri, fod y cytundeb yn golygu y bydd "gwasanaethau allweddol ar gael yn lleol" ac y bydd yr "is-bostfeistri yn parhau i dderbyn incwm wrth wasanaethu'r cymunedau".
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth San Steffan wedi cychwyn ymgynghoriad ar gynllun i symud holl dystysgrifau yswiriant ceir ar-lein.
Ffugio
O dan y ddeddf rhaid i gwmnïau yswiriant gyhoeddi tystysgrif papur ac electronig wrth gytuno ar bolisi gyda pherchennog y cerbyd.
Mae'r llywodraeth yn creu bod modd ffugio dogfennau papur yn hawdd ... a bod newidiadau yn gostwng y prisiau.
Bob blwyddyn mae 34 miliwn o ddogfennau yswiriant yn cael eu cyhoeddi, yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos a bydd angen i unrhyw newid ddiddymu'r ddeddf bresennol.