Dal bron i fil â ffôn wrth y llyw
- Published
Cafodd bron i 1,000 o yrwyr eu dal yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru yn ystod ymgyrch gan heddluoedd Cymru fis diwetha'.
Nod yr ymgyrch pythefnos o hyd oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith modurwyr ynglyn â'r gwir beryglon pan fo gyrwyr yn torri'r gyfraith trwy ffonio neu anfon negeseuon testun tra wrth y llyw.
Yn ystod yr ymgyrch roedd swyddogion o'r pedwar heddlu yng Nghymru wedi cofnodi cyfanswm o 972 o droseddau'n ymwneud â defnyddio ffonau symudol wrth yrru.
Cafodd 454 hysbysiad cosb benodol eu rhoi gan Heddlu Dyfed-Powys, 242 yn ne Cymru, 128 gan Heddlu Gwent a 148 yng ngogledd Cymru.
'Pump peryglus'
Dywedodd Lee Ford, Arolygydd Plismona'r Ffyrdd gyda Heddlu Gwent: "Roedd yr ymgyrch hon yn un rhan o ymdrech barhaol i dargedu a gostwng nifer y gyrwyr allai gael damwain am eu bod yn defnyddio'u ffonau symudol wrth yrru.
"Ynghyd ag yfed a gyrru, goryrru, gyrru heb wregys, neu yrru'n ddiofal, mae defnyddio ffôn symudol wrth y llyw - boed hynny i anfon neges destun, ddefnyddio 'app' neu wneud galwad - yn cael ei ystyried fel un o'r "pump peryglus", y pum achos damweiniau ceir mwya' cyffredin."
Meddai Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Rydym i gyd angen ystyried sut rydym yn gyrru ac mae'n rhywbeth sydd yn galw am sawl sgil felly dylai unrhyw beth sydd y tu hwnt i hynny ddisgwyl tan ein bod wedi parcio'n ddiogel neu fod ein siwrne ar ben."
Ers newid y gyfraith ym mis Chwefror 2007, gallwch chi gael tri phwynt ar eich trwydded a dirwy o £60 os ydych yn cael eich dal yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Hydref 2012
- Published
- 22 Medi 2011
- Published
- 1 Rhagfyr 2003